Deiseb a wrthodwyd Trethu mawn yn hytrach na’i wahardd
Unwaith eto, mae yna fomentwm i wahardd mawn. Mae’r diwydiant mawn yn defnyddio 3 miliwn metr ciwbig o fawn bob blwyddyn. Beth fydd yn cael ei ddefnyddio yn lle hyn i gyd?
Bydd trethu mawn ar y pwynt y mae’n cael ei brynu gan y diwydiant garddwriaeth yn caniatáu i’r diwydiant ailgylchu addasu. Os na fydd yn gwneud hynny, ni fel defnyddwyr fydd yn talu’r pris – a phris drud iawn hefyd. Ni fydd compost PAS100 yn cael ei ddefnyddio yn lle mawn. Bydd trethu mawn yn ailgychwyn prosiectau i ddatblygu sylweddau i’w defnyddio yn lle mawn, a fethodd oherwydd nad oeddent yn gallu cystadlu â mawn rhad. Os caiff mawn ei drethu am 5 mlynedd, bydd yr hyn sy’n cael ei ddefnyddio yn lle mawn yn dod yn gystadleuol eto, a gellir gwahardd mawn yn llwyr wedyn.
Rhagor o fanylion
Rwyf yn Rheolwr Technegol ar gyfer cwmni garddwriaethol a ddatblygodd sylwedd i’w ddefnyddio yn lle mawn yn 2010/2012 a oedd yn llwyddiannus iawn o safbwynt technegol.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi