Deiseb a gwblhawyd Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr

Mae prisiau tai’n gorfodi pobl leol o'u cymunedau eu hunain. Mae hyn yn dinistrio ein diwylliant a'n hiaith. Nid yw adeiladu mwy o dai’n ddigon.

Rydym yn galw am ailfeddwl polisi sylfaenol i flaenoriaethu anghenion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd pobl Cymru yn unol â’r cynllun gweithredu Cymraeg 2050 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Rhowch lais i bobl ar ddatrys ein hargyfwng tai: gweithredu wyth gofyniad y Siarter Cyfiawnder Cartrefi a sefydlu Cynulliad Dinasyddion i sbarduno newid.

Rhagor o fanylion

Mae Covid-19 wedi dangos yr angen am gamau gweithredu pendant gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag argyfwng mawr. Mae angen gweithredu ar frys nawr i fynd i’r afael â’n hargyfwng tai, cyn i ddiwylliannau lleol a’r Gymraeg gael eu colli a chyn i farchnad dai ddireolaeth ddinistrio cymunedau trefol a gwledig Cymru.

Mae'r grŵp Siarter Cyfiawnder Cartrefi yn gydweithrediad gwleidyddol di-blaid ar draws Cymru. Gwnaethom ymchwilio i'r holl faterion a’r atebion a gynigiwyd gan eraill a'u crynhoi mewn wyth maes cyflawnadwy a chadarnhaol ar gyfer gweithredu.

Gweithredu gofynion y Siarter; defnyddio Cynulliad Dinasyddion i sbarduno'r newid:
1. Datgan argyfwng tai yng Nghymru
2. Creu bil i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb tai.
3. Amddiffyn ein cymunedau; rhai gwledig a threfol.
4. Amddiffyn y Gymraeg a diwylliant Cymru.
5. Diwygio darpariaeth tai cymdeithasol.
6. Mynd i'r afael â’r mater dybryd perchnogaeth ail gartrefi ar frys.
7. Diwygio cyfreithiau cynllunio i ymateb i anghenion tai lleol.
8. Creu Cynulliad Dinasyddion ar dai.

I gael mwy o wybodaeth am bob gofyniad, ewch i siartercartrefi.org

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

6,469 llofnod

Dangos ar fap

10,000