Deiseb a wrthodwyd Ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i ailblannu coeden yn union le coeden sydd wedi'i chwympo â Gorchymyn Diogelu Coed.
Mae ein hardaloedd trefol wedi cael eu gorchuddio fwyfwy â choncrit, ac mae'r coed sy'n weddill yn diflannu'n araf fesul un. Yn anaml y caiff coed newydd eu plannu yn eu lle, gan adael strydoedd gwag, llwyd, difywyd i'r genhedlaeth nesaf o berchnogion tai. Mae angen mwy o ddiogelwch i atal yr anialwch trefol hwn rhag dod yn realiti, a dylid plannu coeden debyg addas yn lle unrhyw goeden y mae'n rhaid ei thorri i lawr oherwydd afiechyd neu ffactorau dilys eraill ni waeth faint o goed eraill sydd ar y stryd.
Rhagor o fanylion
Mae coed yn darparu gwasanaeth enfawr nid yn unig i'n hinsawdd a'n bywyd gwyllt, ond i ni hefyd. Mae presenoldeb coed yn creu cymunedau bach o anifeiliaid gwyllt, er enghraifft adar, y gall eu cân wella naws stryd gyfan. Ond mae coed hefyd yn darparu cysgod ar ddiwrnodau poeth yr haf, yn oeri'r stryd, ac yn rhoi awgrym o wyrdd i dirwedd sydd fel arall yn llwyd a brown. Rwy’n credu’n gryf y dylai fod gan bob stryd nifer o goed, a dylid gwneud popeth i ddiogelu unrhyw goeden rhag marw’n ddiangen. Er y gall sefyllfaoedd godi lle mae'n rhaid i goeden ddod i lawr; dylid plannu un newydd bob amser. Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd coed, ond nid mewn gardd! Mae angen deddfwriaeth i gynnal cynefinoedd ac ardaloedd gwyrdd mewn trefi. Os yw Cymru am ddod yn fwy cynaliadwy, rhaid amddiffyn a hyrwyddo coed sydd o fudd i hinsawdd, bywyd gwyllt, a holl breswylwyr ardal. Nid wyf fyth yn gweld coeden newydd yn cael ei phlannu mewn ardal drefol, felly mae'n bryd dod â manteision coed i'n strydoedd, nid i’n cefn gwlad yn unig.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi