Deiseb a wrthodwyd Make it compulsory for Welsh history and language to be taught in the Welsh education curriculum.

Recently the Welsh government made it compulsory for Black history to be taught in Welsh school, despite the fact that Welsh history and language are not compulsory in the curriculum.

It is vital that future generations of Welsh children learn the history and the unique culture of Wales, this would prevent further derogation of this country's proud history and traditions

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Allwn ni ddim cyhoeddi deisebau sy’n gofyn am rywbeth sy’n digwydd yn barod neu rywbeth sydd wedi’i gyhoeddi ers i chi ddechrau eich deiseb. Rydym ni’n credu bod y Llywodraeth neu’r Senedd eisoes yn gweithredu ar yr hyn sydd yn eich deiseb chi. Os ydych chi eisiau rhywbeth arall, gallech chi ddechrau deiseb newydd sy’n nodi’n glir beth yw hynny.

Cafodd Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ei basio gan y Senedd ym mis Mawrth 2021. Mae’n orfodol addysgu’r Gymraeg i blant sy’n 3 oed a hŷn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y bydd hanes Cymru yn ogystal â hanes Pobl Dduon yn cael eu cynnwys yng ‘Nghod yr Hyn sy’n Bwysig’ ar gyfer y Dyniaethau, a fydd yn rhan o'r canllawiau statudol ar gyfer y Cwricwlwm newydd, ac felly fe fydd yn orfodol addysgu’r naill bwnc a’r llall.

Ar hyn o bryd mae'r Llywodraeth yn ymgynghori ar ddatganiadau drafft o God yr Hyn sy’n Bwysig (tan 16 Gorffennaf 2021), felly mae’n bosibl yr hoffech chi gyfrannu i’r broses hon trwy leisio eich barn: https://llyw.cymru/cod-datganiadau-or-hyn-syn-bwysig

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi