Deiseb a wrthodwyd Dod â’r mesurau cadw pellter cymdeithasol i ben erbyn mis Awst 2021.
Dod â’r mesurau cadw pellter cymdeithasol a’r cyfyngiadau i ben ddiwedd mis Gorffennaf.
Rhaid dod â’r mesurau cadw pellter cymdeithasol a’r cyfyngiadau i ben yng Nghymru erbyn diwedd mis Gorffennaf yn unol â’r targed o roi’r brechlyn cyntaf, o leiaf, i 50% o’r oedolion dros 30 oed yn y DU.
Rhagor o fanylion
Mae angen i’r cyfyngiadau ddod i ben ac inni ailddechrau byw’n bywydau arferol. Mae’r brechlynnau’n gweithio ac mae pawb sydd wedi llofnodi’r ddeiseb hon, ac eraill, yn cytuno ein bod yn barod i alw am i’r pandemig ‘ddod i ben yn gymdeithasol’ o ystyried y cyfraddau brechu a’r nifer y marwolaethau a’r achosion.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi