Deiseb a gwblhawyd Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth

Mae'n anghyfreithlon lladd neu anafu gwiwer goch. Eto i gyd, nid yw coedwig sy'n eu cynnwys yn cael ei gwarchod a gellir ei thorri i lawr.

Er bod angen trwydded torri coed er mwyn cwympo coetir, ni ellir gwrthod y trwyddedau hyn hyd yn oed os ydyn nhw’n arwain at golli cynefin a dirywiad ym mhoblogaeth y wiwerod coch.

Nid oes angen trwydded ar goedwigoedd sy'n eiddo i'r wladwriaeth, ond fe'u rheolir o dan gynlluniau sy'n para 10 mlynedd neu fwy. Nid oes yn rhaid iddyn nhw asesu effaith gronnol cwympo coed ar boblogaethau gwiwerod coch o flwyddyn i flwyddyn.

Mae’n rhaid i hyn newid.

Rhagor o fanylion

Mae gwiwerod coch prin yn cael eu bygwth gan gyfraith cwympo o’r 1960au, sydd wedi dyddio erbyn hyn.

https://www.independent.co.uk/climate-change/news/red-squirrels-rare-woodland-wildlife-british-outdated-tree-felling-a8665491.html

https://nation.cymru/opinion/wales-should-follow-scotlands-lead-in-protecting-the-red-squirrels-habitat/

Hyd yn oed mewn coedwigoedd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac wedi’u rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae'r asiantaeth yn clirio cynefin trwy gwympo coed heb asesu'r effaith ar boblogaethau gwiwerod. Ar Ynys Môn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwario £0 mewn 10 mlynedd ar fonitro gwiwerod coch. Does ganddyn nhw’r un syniad o effaith torri coed dro ar ôl tro ar boblogaethau, ac maen nhw’n parhau i gwympo cynefinoedd, ni waeth beth fo’r canlyniadau.

https://www.thenational.wales/news/19304998.expert-raps-nrw-felling-red-squirrel-habitat/

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae mynd i'r afael â datgoedwigo byd-eang yn hanfodol i atal ein bioamrywiaeth rhag dirywio, ond eto i gyd mae eu rheolydd coedwigoedd yn dinistrio cynefin coedwigoedd yma, heb asesu'r effaith ar wiwerod coch.

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-56185205

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

10,555 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 8 Rhagfyr 2021

Gwyliwch y ddeiseb ‘Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Rhagfyr 2021.