Deiseb a gwblhawyd Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021

O ganlyniad i’r pandemig, athrawon Cymru sydd yn cario’r baich am farcio, safoni a chymedroli asesiadau TGAU, UG ac A2 yn lle’r byrddau arholi. Mae hyn ar ben dysgu amserlen arferol a marcio gwaith dysgwyr eraill. Mae rhai athrawon ond wedi cael eu rhyddhau am un awr i gyflawni’r gwaith sydd yn anochel felly wedi gorfod cael ei gwblhau ar ôl oriau gwaith ac ar y penwythnos. Mae athrawon CA4 a 5 Cymru yn haeddu bonws am eu hymdrechion fel athrawon Yr Alban.

Rhagor o fanylion

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,252 llofnod

Dangos ar fap

10,000