Deiseb a wrthodwyd Cyfyngu ar gynnal ymweliadau ag eiddo preswyl wedi'i feddiannu yng Nghymru tan ddiwedd pandemig COVID-19
Dylid atal landlordiaid ac asiantau tai rhag defnyddio hysbysiadau 24 awr i fynd i mewn i eiddo y maent yn ei rentu fel y gallant gynnal nifer o ymweliadau bob dydd. Bydd hyn yn atal landlordiaid/asiantau tai rhag defnyddio'r hysbysiad mynediad 24 awr i droi eiddo rhent preifat yn fannau cyhoeddus. Bydd hefyd yn lleihau'r risg y bydd COVID-19 yn lledaenu o ganlyniad i nifer o ymweliadau yn cael eu cynnal bob dydd.
Dylai ymweliadau gael eu cynnal naill ai’n rhithwir yn ystod y pandemig neu dylid cyfyngu ar nifer yr ymweliadau a ganiateir bob wythnos. Dylai landlordiaid/asiantau tai hefyd logi gwasanaeth glanhau a dadheintio ar ôl bob ymweliad.
Rhagor o fanylion
Mae gan denantiaid hawl o dan gyfraith y DU i'r hyn a elwir yn hawl i fwynhad tawel, sy'n cyfeirio at eu hawl i fyw mewn eiddo heb ymyrraeth gan eu landlord neu asiant tai. Er gwaethaf hyn, mae rhai landlordiaid ac asiantau tai yn camddefnyddio’r hysbysiad 24 awr y mae'n rhaid iddynt ei roi i denantiaid cyn iddynt fynd i mewn i eiddo drwy roi'r hawl i'w hunain i gyhoeddi hysbysiadau o'r fath yn bob dydd.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi