Deiseb a wrthodwyd Rhaid i bob Ysbyty’r GIG, gan gynnwys y rhai sydd yn y cam cynllunio, gael ardal llesiant ar gyfer gweithwyr y GIG

Rydyn ni wedi dysgu yn sgîl y pandemig y dylai llesiant ac iechyd meddwl gweithwyr y GIG fod yn ystyriaeth ganolog ym mhob ysbyty. Yn ystod yr her fwyaf, roeddem ni wedi blino’n feddyliol ac yn gorfforol. Nid oedd gennym ardal a allai fod yn hafan ddiogel inni. Rwy'n gweithio ar y rheng flaen, ac ar ôl colli claf o ganlyniad i Covid-19 byddai fy nghydweithwyr a minnau yn teimlo’n dorcalonnus. Nid oedd gennym unman lle y gallem ddod atom ein hunain. Roedd yn rhaid inni fwrw ati gyda’r gwaith unwaith eto yn syth. Mae llawer o fy nghydweithwyr yn sâl ar hyn o bryd oherwydd problemau iechyd meddwl.

Rhagor o fanylion

Rydym wedi gweld budd o gael ystafell llesiant o faint gweddol dda yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae’n fan cyfforddus, hamddenol sydd â darpariaeth gwnsela ar gael. Pan fydd ysbytai newydd yn cael eu hadeiladu, dylai llesiant staff fod yn sylfaen gadarn ynddynt. Mae staff o dan bwysau enfawr bellach i fynd i’r afael â rhestrau aros ond mae'n rhaid i ni gofio y gall staff y GIG fod yn gleifion hefyd. Yn ddiweddar rhybuddiodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Aelodau Seneddol fod y GIG ar fin chwalu oherwydd bod staff mor flinedig. Mae angen i ni roi strategaethau sy'n helpu llesiant staff ar waith nawr. Os byddwn yn gweld trydedd don neu bandemig arall bydd yr ardaloedd hyn mor bwysig i weithwyr y GIG.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi