Deiseb a wrthodwyd Rhowch daliad bonws y GIG i’r gweithwyr asiantaeth sydd wedi gweithio mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill

Ers dechrau'r pandemig rwyf i a llawer o weithwyr asiantaeth mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill wedi gweithio yr un mor galed â'r bobl dan gontract. Pa un ai glanhau ai gofalu am bobl, byddem yn gweithio yr un mor galed i sicrhau bod yr ysbytai'n lân a bod gwasanaethau'n cael eu darparu trwy gydol y pandemig pan fyddai achosion Covid ar eu huchaf. Ond mae’r ffaith ein bod yn cael ein cyflogi gan asiantaeth yn hytrach nag o dan gontract uniongyrchol gyda’r GIG yn golygu ein bod yn dioddef gwahaniaethu.

Rhagor o fanylion

Rydym yn rhoi ein bywydau mewn perygl bob dydd wrth fynd i weithio, ac mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â'n cynnwys.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi