Deiseb a gwblhawyd Dylid cyflwyno arosfannau bysiau mwy gwyrdd, a mwy 'cyfeillgar i wenyn' ledled Cymru

Gofynnwn i Lywodraeth Cymru gyflwyno arosfannau bysiau mwy gwyrdd a mwy 'cyfeillgar i wenyn' ledled Cymru, ac ymrwymo i wneud 10 y cant o arosfannau bysiau yn gyfeillgar i wenyn dros y pum mlynedd nesaf.

Rhagor o fanylion

Byddai’r prosiect dad-ddofi hwn yn helpu i amddiffyn poblogaethau gwenyn hanfodol, yn gwneud cyfraniad bach at y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd ac yn ehangu ecosystemau lleol, gan gynyddu bioamrywiaeth.

Gallai gosod arosfannau bysiau cyfeillgar i wenyn, ac arnynt doeau tyfiant, hefyd storio dŵr glaw, gwella ansawdd aer a gwella gwedd rhwydwaith ffyrdd cymunedau Cymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

197 llofnod

Dangos ar fap

10,000