Deiseb a gwblhawyd Dylid cael gwared ar fesurau cadw pellter cymdeithasol ym mhob priodas yng Nghymru yr haf hwn ar ôl 15 Gorffennaf 2021

I lawer o gyplau sy’n edrych ymlaen at ddechrau eu bywyd teuluol mae priodas yn un o’r digwyddiadau pwysig mewn bywyd. Mae cyfyngiadau Covid-19 yn golygu bod llawer o gyplau wedi gorfod gohirio eu cynlluniau priodasol sawl gwaith gan nad ydyn nhw am beidio â chael eu priodas ddelfrydol. Mae hyn wedi rhoi llawer o fywydau ar stop ac mae wedi cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl miloedd.
A allai gwesteion priodas ddarparu canlyniadau profion negyddol, neu dystiolaeth o ddau frechiad er mwyn mynychu priodasau digyfyngiad?

Rhagor o fanylion

Ar 16 Mehefin 2021 roedd 88.2 y cant o holl oedolion Cymru wedi cael eu brechlyn Covid-19 cyntaf gan GIG Cymru, ac roedd 57.6 y cant o oedolion wedi cael eu hail ddos. Yn y saith diwrnod blaenorol roedd 4.6 y cant o'r holl oedolion wedi cael dau ddos o’r brechlyn gan GIG Cymru. Ar sail y ffigurau hyn, gellir rhagweld y bydd o leiaf 76 y cant o oedolion Cymru wedi cael dau ddos o frechlyn erbyn 15 Gorffennaf. At hynny, mae’r ail ddos wedi cael ei gyflwyno’n gyflymach dros y dyddiau diwethaf gyda 2.7 y cant o oedolion yn cael eu hail ddos yn ystod y tri diwrnod blaenorol. Gallai hyn gyflymu ymhellach gan fod brechiad cyntaf wedi cael ei gynnig i bob oedolyn yng Nghymru erbyn hyn, sy’n golygu bod brechlynnau dros ben.
Mae’n bosibl y bydd 76 y cant o oedolion Cymru wedi cael y ddau frechiad erbyn 15 Gorffennaf, felly pam y dylai mesurau cadw pellter cymdeithasol barhau ar gyfer priodasau? Yn enwedig o gofio y byddai pawb sy’n mynd i briodas yn fodlon cael prawf llif unffordd ac y byddai'n hawdd eu monitro a'u holrhain pe bai angen.
Dyma ffynhonnell yr holl ffigurau a ddefnyddiwyd: https://coronavirus.data.gov.uk/details/vaccinations

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

809 llofnod

Dangos ar fap

10,000