Deiseb a gwblhawyd Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd

Mae angen adolygiad brys o’r ddarpariaeth o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.

Ar hyn o bryd nid oes dim gwasanaethau adsefydlu cleifion mewnol yng ngogledd Cymru ar gyfer pobl sydd wedi cael niwed i’r ymennydd, ac nid oes ond pedwar gwely cleifion mewnol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.
Rhaid wrth wasanaethau sy’n ddigonol ac yn 'addas at y diben’.
Mae’n amser ar gyfer newid.

Rhagor o fanylion

Yn 2018, lansiodd y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Gleifion Sydd Wedi Cael Niwed i’r Ymennyd yr adroddiad canlynol: https://cdn.ymaws.com/ukabif.org.uk/resource/resmgr/campaign/appg-abi_report_time-for-cha.pdf
Fodd bynnag, roedd angen adroddiad cyfatebol sy’n canolbwyntio yn benodol ar Gymru ac yn ystyried ei demograffeg, ei daearyddiaeth a'i darpariaeth gwasanaethau.
Oherwydd yr angen hwn, yn 2021 fe gyhoeddwyd yr adroddiad “Acquired Brain Injury and Neurorehabilitation in Wales: Time for Change” https://ukabif.org.uk/page/TFCWales
Gwneir argymhellion allweddol mewn pum maes - Niwroadsefydlu, Addysg, Cyfiawnder Troseddol, Anafiadau Trawmatig i'r Ymennydd sy'n Gysylltiedig â Chwaraeon, a'r System Budd-daliadau Lles - ac mae pob un yn tynnu sylw at yr angen dybryd i adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.
Mae cael niwed i’r ymennydd yn epidemig cudd sy'n effeithio ar gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru, ac mae rhaid wrth wasanaethau sy’n ddigonol ac yn 'addas at y diben'.
Mae’n amser ar gyfer newid.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

443 llofnod

Dangos ar fap

10,000