Deiseb a gwblhawyd Dylai menywod gael ei sgrinio’n rheolaidd gyda phrawf gwaed o’r enw CA125 i ganfod canser yr ofari.
Mae fy mam wedi cael diagnosis diweddar o ganser sylfaenol yr ofari a chanser eilaidd y peritonewm. Pe bai menywod yn cael eu sgrinio’n rheolaidd gyda’r prawf gwaed CA125 byddai modd canfod arwyddion cynnar, fel maent yn sgrinio ar gyfer canser ceg y groth a mamogramau ar gyfer canser y fron. Mae canser yr ofari yn ganser tawel, a phan mae menywod yn cael unrhyw symptomau mae’r canser fel arfer wedi cyrraedd cam mwy datblygedig. Byddai canfod y canser yn gynnar yn golygu y gellid trin menywod yn gynt ac osgoi marwolaethau.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon