Deiseb a gwblhawyd Dylid cynnig brechiad Covid-19 i blant sy'n agored i niwed yn glinigol.

Mae brechlyn Pfizer rhag Covid-19 wedi cael ei gymeradwyo yn y DU i'w ddefnyddio ar gyfer plant 12-16 oed. Fodd bynnag, nid yw'r brechiad yn cael ei gynnig i blant yn y grŵp oedran hwnnw.
Mae plant sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol mewn mwy o berygl o fynd i'r ysbyty a marw oherwydd Covid-19 na phlant yn gyffredinol.
Rydym am i Lywodraeth Cymru gynnig y brechlyn i blant yn y grŵp oedran hwnnw sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Rhagor o fanylion

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod plant ag anableddau niwroddatblygiadol mewn perygl difrifol o fynd i'r ysbyty a marw oherwydd Covid-19. Mae'r rhain yn cynnwys plant â pharlys yr ymennydd, syndrom Down ac anabledd dysgu difrifol. https://adc.bmj.com/content/early/2021/01/04/archdischild-2020-321225

Yn y boblogaeth gyfan, mae cyfradd marwolaethau o Covid-19 yn uwch i bobl ag anabledd dysgu nag y mae i’r boblogaeth gyffredinol.
https://www.gov.uk/government/news/people-with-learning-disabilities-had-higher-death-rate-from-covid-19
Ym mis Mawrth eleni, dyma a ganfu arolwg o 3,000 o deuluoedd a gynhaliwyd gan yr elusen Contact:
Cynigiwyd brechiad rhag Covid-19 i 86 y cant o rieni â phlant anabl; fe’i cynigiwyd i ddau o bob tri fel gofalwyr di-dâl.
Mae 70 y cant â phlant sy’n gwarchod neu sydd ag anabledd am iddynt gael brechlyn Covid-19 pan gaiff ei drwyddedu i’w ddefnyddio ar gyfer plant.
Hoffai un o bob 10 gael mynediad at frechlyn Covid-19 heb drwydded ar unwaith, ond o’r rhai sydd wedi ceisio, dim ond tri o bob 200 sydd wedi llwyddo ei gael yn ddidrwydded.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

347 llofnod

Dangos ar fap

10,000