Deiseb a gaewyd Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy’n byw yng Nghymru

Rydym yn pryderu nad yw’r gwasanaethau cyfredol i bobl ag epilepsi sy’n byw yng Nghymru yn rhoi’r cymorth a’r gefnogaeth y mae eu hangen arnynt.
Mae Epilepsy Action yn argymell llwyth achosion o ddim mwy na 250 o bobl i bob Nyrs Epilepsi Arbenigol, a hynny er mwyn lleihau effaith eu cyflwr a darparu’r gofal gorau posibl. Nid oes yr un rhan o Gymru’n bodloni’r argymhelliad hwn ar hyn o bryd.
Mae yna brinder nyrsys epilepsi arbenigol ac mewn llawer o ardaloedd mae’r amseroedd aros i weld niwrolegwyr dros 12 mis.

Rhagor o fanylion

Byddai cynyddu nifer y nyrsys epilepsi arbenigol yn holl fyrddau iechyd Cymru yn help mawr o ran cael mynediad at wasanaethau a’r cymorth y mae pobl ag epilepsi’n ei gael.
Mae nyrsys epilepsi arbenigol yn aelodau hollbwysig o’r timau sy’n gofalu am bobl ag epilepsi. Maent yn gweithio ochr yn ochr â niwrolegwyr ymgynghorol a gweithwyr gofal iechyd eraill i roi cyngor a chymorth hanfodol yn ystod apwyntiadau ac, yr un mor bwysig, rhwng apwyntiadau.

Yn aml, nyrsys epilepsi arbenigol yw’r pwynt cyswllt cyntaf i bobl ag epilepsi sydd angen cyngor neu gymorth mewn perthynas â’u cyflwr, ac mae eu cyfraniad yn werthfawr dros ben. Mae rôl hanfodol nyrsys epilepsi arbenigol o ran gofalu am bobl ag epilepsi a’u cefnogi i’w weld yn yr adroddiad ESPENTE diweddar gan Epilepsy Action https://www.epilepsy.org.uk/research/espente
Yn ogystal â chynyddu nifer y nyrsys epilepsi arbenigol, mae angen mwy o gyllid ar yr holl wasanaethau epilepsi yng Nghymru i sicrhau bod pobl ag epilepsi yn cael y cymorth a’r gofal y mae eu hangen arnynt.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,334 llofnod

Dangos ar fap

10,000