Deiseb a gwblhawyd Dylid gwahardd defnydd hamdden o Seadoo/sgïo jet yng Nghymru. Ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig a reolir yn llym.

Mae ein bywyd gwyllt a'u cynefinoedd eisoes o dan ymosodiad milain gan wareiddiad graddol, ymelwa ar adnoddau, llygredd a newid hinsawdd. Mae caniatáu defnydd heb ei reoli o'r cerbydau hamdden swnllyd, peryglus a llygrol hyn – gan ychwanegu at y difrod hwnnw – yn anghyfrifol! Dydyn nhw ddim yn cynnig unrhyw wasanaeth arall i ddynol ryw heblaw cyffro am ennyd. Mae hyn yn wastraffus yn ogystal ag anghyfrifol.

Rhagor o fanylion

Mae yna achosion o aflonyddwch, ymddygiad ymosodol a niwed bob dydd i ddefnyddwyr eraill y môr a bywyd gwyllt, gydag ambell achos yn cael ei gofnodi ac eraill ddim. Mae yna lawer o achosion o niwed corfforol a hyd yn oed marwolaeth i anifeiliaid a bodau dynol. Prin bod y defnydd hamdden o’r cerbydau pŵer uchel peryglus hyn yn cael ei reoli o gwbwl. Rhaid eu gwahardd o bob maes, ac eithrio meysydd posibl bach a phenodol, sydd wedi’u neilltuo i'r bobl hunanol hynny niweidio'u hunain yn unig. Gallai hynny fod yn rhy anodd. Os mai dyna’r achos, dylid eu gwahardd yn gyfan gwbl yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,432 llofnod

Dangos ar fap

10,000