Deiseb a gaewyd Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru Cefndir

Mae endometriosis yn difetha bywydau menywod a’u teuluoedd sy'n byw yng Nghymru gydag 1 o bob 10 yn dioddef o'r cyflwr.
Nid yw achos endometriosis yn hysbys, nid oes gwellhad, yr amser diagnosis ar gyfartaledd yw wyth mlynedd a hanner ac mae rhestr aros chwe blynedd am driniaeth ar y GIG.
Mae'r diffyg dealltwriaeth amlwg o'r cyflwr yn cael effaith niweidiol ar gymdeithas ar bob lefel. Felly mae angen blaenoriaethu cyllid i sicrhau cydraddoldeb gofal iechyd yng Nghymru.

Rhagor o fanylion

Amlygodd adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018 pa mor fawr yw’r broblem a wynebir gennym gydag adnoddau’n cael eu gwastraffu a’r niwed sy'n cael ei achosi ar hyn o bryd i unigolion sy'n dioddef o endometriosis. Er i’r canfyddiadau ddangos effeithiau ar ofal iechyd, addysg, lefelau economaidd, ariannol a chymdeithasol o fewn cymdeithas, nid yw'r mwyafrif o’r argymhellion wedi'u mabwysiadu ac mewn sawl ardal mae pethau wedi gwaethygu i ddioddefwyr endometriosis.
(Isod mae'r linc i'r adroddiad hwn gan y Llywodraeth - Endometriosis care in Wales: Provision, care pathway, workforce planning and quality and outcome measures.
https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-03/endometriosis-care-in-wales-provision-care-pathway-workforce-planning-and-quality-and-outcome-measures.pdf).

A fyddech cystal â llofnodi’r ddeiseb hon er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o endometriosis ac annog Llywodraeth Cymru i ddyrannu'r lefel briodol o gyllid ar gyfer y cyflwr hwn fel y gallwn gymryd camau tuag at sicrhau cydraddoldeb gofal iechyd yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,895 llofnod

Dangos ar fap

10,000