Deiseb a gwblhawyd Dylid mynnu bod pob darluniad o’n draig yn cynnwys pidyn

Ym maes symboleg, mae pidyn ar ei godiad yn cyfleu ffrwythlondeb a nerth, ac mae hyn yn bwysicach fyth pan gaiff ei ddefnyddio ar arwyddlun brenhinol er mwyn dangos gallu arweinydd i gynnal teyrnas, gan fod rhaid cyfleu hyn trwy ddelweddau syml, felly... pan fydd gan y ddraig godiad, mae'n cyfleu goruchafiaeth ac arweinyddiaeth, ond pan fydd y pidyn yn absennol, mae’n cyfleu’r creadur (y genedl) fel un darostyngedig, egwan ac eiddil.

Rhagor o fanylion

Pan fydd y Bathdy Brenhinol yn ei darlunio, mae’n cydnabod bod gan ein draig bidyn, ond, am ryw reswm, nid felly y mae ein llywodraeth yn ei wneud, ac er y gallai rhai deimlo bod y pwnc yn ddoniol, mae'r delweddiad hwn yn bwysig os ydym am barhau i'w hedfan am ganrifoedd i ddod.
https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/royal-mint-makes-20-welsh-11558570 [Saesneg yn unig]
https://www.royalmint.com/our-coins/ranges/denomination/The-Welsh-Dragon-Celebration-2019-UK-20-pound-Fine-Silver-Coin/ [Saesneg yn unig]

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

1,104 llofnod

Dangos ar fap

10,000