Deiseb a wrthodwyd Dylai pobl sydd wedi'u brechu'n llawn gael eu heithrio rhag gorfod hunanynysu pan fyddant yn cyrhaedd Cymru os ydynt wedi teithio drwy Ffrainc i Dwnnel y Sianel yn Calais
Nid yw pobl sy'n mynd i mewn i'w car mewn gwlad ar y rhestr “oren”, megis yr Almaen, ac yn gyrru'n ddi-baid i Calais, yn troedio ar bridd Ffrainc. Nid ydynt yn anadlu aer Ffrainc nac yn dod i gysylltiad â Ffrancwyr.
Dim ond am 45 o funudau y maent yn gyrru drwy Ffrainc ac nid ydynt yn gadael eu car (eu “swigen”) nes iddynt fod yn Folkestone. Ni all teithio drwy Ffrainc yn y fath ffordd achosi risg i iechyd na risg heintio yng Nghymru.
Rhagor o fanylion
O dan y ddeddfwriaeth bresennol, nid oes rhaid i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn ac yn hedfan i'r DU o'r Almaen hunanynysu, er eu bod yn anadlu'r aer y tu mewn i adeiladau maes awyr a’r tu mewn i awyrennau lle y mae antigenau'n helaeth ac yn cael eu lledaenu'n eang gan y system aerdymheru.
Yn y cyfamser, mae pobl sydd wedi'u brechu'n llawn, wedi cael canlyniad negatif i brawf a heb adael eu “swigen” (eu car) rhwng yr Almaen a Folkestone yn cael eu gorfodi i hunanynysu am 10 diwrnod.
Nid oes rhesymeg na synnwyr na thystiolaeth wyddonol a fyddai'n cefnogi'r ddeddfwriaeth bresennol.
Dyma pam rwy’n mynnu y daw’r rheol hunanynysu yng Nghymru i ben i bobl sydd wedi'u brechu'n llawn ac wedi teithio drwy Ffrainc yn ddi-baid. Ni ddylid trin “teithio” yn yr un modd ag ymweld, aros na galw yn Ffrainc.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi