Deiseb a gwblhawyd Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol ‘Ymadawyr Gofal a Mwy’ sy'n cynnwys amrywiaeth o bobl.

Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ddylunio cynllun Incwm Sylfaenol Cyffredinol (ISC) yn ôl ardal ddaearyddol sy'n cynnwys plant, pobl gyflogedig, pobl ddi-waith a phensiynwyr, yn ogystal â'r rhai sy'n gadael gofal.
Bydd hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru a'r cyhoedd ddeall sut y byddai'r polisi'n effeithio ar Gymru pe bai'n cael ei gyflwyno yfory.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,051 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau ei adroddiad, "Cynllun Peilot UBI i Gymru", ar ddeiseb P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol 'Ymadawyr Gofal a Mwy' sy'n cynnwys amrywiaeth o bobl, ar 18 Ionawr 2022: https://senedd.cymru/media/afhp4jc0/cr-ld14849-w.pdf

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar gael yma: https://busnes.senedd.cymru/documents/s122984/Ymateb%20Llywodraeth%20Cymru%20i%20adroddiad%20y%20pwyllgor.pdf