Deiseb a gwblhawyd Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol

Rwy’n fyfyriwr â ffibromyalgia ac anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth. Roedd gallu cael mynediad at fy nghwrs o bell o fudd mawr i’m hiechyd corfforol a’m hiechyd meddwl. Mae pobl anabl a niwrowahanol eraill wedi cael profiadau tebyg a hoffent gael yr opsiwn i barhau i gael mynediad at eu cyrsiau yn y modd hwn.
Dylai’r Senedd sicrhau’r hawl i fynediad o bell at addysg. Ymhellach, dylai ddiogelu cyfrifoldeb sefydliadau addysgol yn y gyfraith i ymroi’n llwyr i greu amgylchedd hygyrch, cynhwysol. Mae gwrthod hyn yn amddifadu pobl anabl a niwrowahanol o’r bywyd a’r rhyddid rydym yn eu haeddu.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

158 llofnod

Dangos ar fap

10,000