Deiseb a gwblhawyd Dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru achub y coed, y gwrychoedd a'r caeau yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i atal ei chynlluniau i werthu'r 49 erw o gaeau gleision ym Meisgyn ar gyfer 460 o dai. Gofynnwn iddi beidio â gwerthu'r tir ar gyfer codi tai a rhoi'r gorau i'w chynlluniau ar gyfer y datblygiad. Rydym yn annog Gweinidogion Cymru i roi sylw i’r argyfwng hinsawdd, cadw at egwyddorion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a thynnu yn ôl y cynlluniau ar gyfer y caeau hyn. Gan na fydd ysgol newydd yn cael ei darparu ar y safle, bydd hyn hefyd yn achosi mwy o draffig ar y ffyrdd a llygredd.

Rhagor o fanylion

Mae'r caeau'n ffinio ar Goed-yr-Hendy (coetir hynafol), Afon Clun a Chors y Pant, sy'n safle gwarchod natur. Mae gan y caeau lawer o goed a fydd yn cael eu colli oherwydd adeiladu ffyrdd newydd ar gyfer yr ystâd newydd. Bydd gwaith codi tai yn niweidio'r gwrychoedd a'r glasbrennau. Mae Coed-yr-Hendy a’r caeau yn gartref i nifer fawr o adar, mamaliaid bach a phryfed; gwelir adar ac ystlumod yn gyson yn hela eu bwyd uwchben y caeau - ni ddylem fynd â hyn oddi wrthynt. Bydd adeiladu ar y caeau hyn yn cael effaith drychinebus ar fywyd gwyllt lleol a'r system ecolegol leol.
Yn sgil y datganiad ar argyfwng hinsawdd y wlad hon, mae’n hollbwysig cadw ein gwrychoedd, ein coed a’n mannau gwyrdd o gofio eu bod yn amsugno ac yn hidlo carbon deuocsid a llygryddion aer eraill. Hefyd, maent yn helpu i ddraenio dŵr glaw a lleihau erydiad pridd. Byddai parhau i ffermio defaid ar y caeau hyn yn dod â buddion aruthrol i’n hamgylchedd ym Meisgyn a’r tu hwnt.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

334 llofnod

Dangos ar fap

10,000