Deiseb a gwblhawyd Cynnal refferendwm ar Gymru yn dod yn Genedl Noddfa
Gyda’r digwyddiadau diweddar yn Affganistan a Mark Drakeford yn ein hatgoffa ni i gyd fod Llywodraeth Cymru am i Gymru fod yn Genedl Noddfa, rydym wir o’r farn y dylai hwn fod yn benderfyniad sy’n cael ei wneud gan bobl Cymru. Rydym yn teimlo, gan mai pobl Cymru fydd yn ariannu hyn yn rhannol trwy drethi, mae gennym hawl i benderfynu ai dyma’r penderfyniad iawn i Gymry. Dylid cynnal refferendwm ar Gymru yn dod yn Genedl Noddfa.
Rhagor o fanylion
Yn ddiweddar, fe ddywedodd Mark Drakeford ar Twitter "Rydym am i Gymru ddod yn Genedl Noddfa a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobl sy'n gadael Affganistan".
Linc y neges Twitter yma - https://twitter.com/fmwales/status/1427656017337372675
Mae llawer o sylwadau wedi’u gwneud am sut nad oes gan Gymru'r cyfleusterau na'r seilwaith ariannol i dderbyn pobl o bob cwr o'r byd a rhoi cartref iddynt. Fel y soniwyd, mae gennym ein problemau digartrefedd, cyffuriau/alcohol ac argyfwng iechyd meddwl ein hunain, ac ar ben hynny, mae'r economi'n chwalu oherwydd Covid. Mae’n deg dweud na allwn gefnogi mwy o bobl tra bod gennym ein problemau ein hunain i’r fath raddau. Am y rhesymau hyn, rydym yn galw am gynnal refferendwm ar Gymru yn dod yn Genedl Noddfa. Ni ddylai'r penderfyniad hwn erioed fod wedi cael ei wneud heb unrhyw bleidlais gan y cyhoedd. Ni etholwyd unrhyw un ar faniffesto nac addewid i wneud hyn.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon