Deiseb a wrthodwyd Ei gwneud yn ofynnol i gyfleusterau newid baban fod ar gael, heb fod yn seiliedig ar rywedd
Yn llawer rhy aml, rwyf wedi gorfod newid fy mab pan rydym allan, ac rwyf wedi cael gwybod bod y bwrdd newid baban yn y toiledau Menywod.
Nid yw hyn yn ddigon da. Dylai cyfleusterau newid baban fod ar gael i bawb, waeth beth yw eu rhywedd.
Rhagor o fanylion
Yn y DU, nid oes angen i fusnesau sydd ar agor i’r cyhoedd gynnig cyfleusterau newid baban, mae diffyg cyfreithiau a rheolau ynghylch y mater hwn.
Dyna pam y caniateir i’r hen draddodiad, o roi cyfleusterau newid baban yn nhoiledau Menywod, barhau.
Rwyf am weld cyfres newydd o reolau yn eu cael rhoi ar waith.
Ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sydd angen cyfleusterau newid baban i sicrhau eu bod yn niwtral o ran rhywedd.
Hefyd, ei gwneud yn gyfraith, ei bod yn rhaid i fangreoedd sydd yn fwy na maint arbennig, pan fo gofod yn caniatáu, gynnig cyfleusterau newid baban sy’n niwtral o ran rhywedd.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi