Deiseb a wrthodwyd Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddatgan ei hymrwymiad i fod yn Genedl Noddfa

I ymateb i’r Ddeiseb "Mae angen atal Llywodraeth Cymru a grwpiau cyhoeddus rhag gwneud Cymru yn Genedl sy’n Noddfa", mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddatgan ei hymrwymiad i Gymru fod yn Genedl Noddfa, a rhoi pob cymorth sydd ar gael iddi i gynorthwyo a chefnogi ffoaduriaid Afghanistan y mae’r argyfwng presennol wedi effeithio arnynt.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Allwn ni ddim cyhoeddi deisebau sy’n gofyn am rywbeth sy’n digwydd yn barod neu rywbeth sydd wedi’i gyhoeddi ers i chi ddechrau eich deiseb. Rydym ni’n credu bod y Llywodraeth neu’r Senedd eisoes yn gweithredu ar yr hyn sydd yn eich deiseb chi. Os ydych chi eisiau rhywbeth arall, gallech chi ddechrau deiseb newydd sy’n nodi’n glir beth yw hynny.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi