Deiseb a gaewyd Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Yng Nghymru, mae gennym un trac rasio milgwn annibynnol sy’n cynnal rasys unwaith yr wythnos. Ers mis Ebrill 2018, mae Hope Rescue a’u partneriaid achub wedi derbyn bron 200 o filgwn dros ben o'r trac hwn, ac roedd 40 o’r rhain wedi dioddef anafiadau. Mae cynlluniau ar waith i’r trac ymuno â Bwrdd Milgwn Prydain Fawr, a fyddai’n arwain at gynnal rasys bedair gwaith yr wythnos a chynnydd sylweddol yn nifer y cŵn dros ben ac anafiadau. Mae rasio milgwn yn greulon yn ei hanfod, a phrin yw’r warchodaeth gyfreithiol sydd gan filgwn. Mae eisoes wedi'i wahardd ym 41 o daleithiau UDA.

Rhagor o fanylion

Mae grwpiau ymgyrchu wedi casglu data a thystiolaeth o lefelau lles gwael yn rasys milgwn y DU.
Alliance Against Greyhound Racing: https://www.aagr.org.uk/category/why-is-greyhound-racing-cruel/
Y Gynghrair yn Erbyn Chwaraeon Creulon: https://www.league.org.uk/greyhound-racing

Cafwyd erthyglau yn y wasg hefyd ac ymchwiliadau cudd i rasio milgwn hefyd:
RTE Investigates: Greyhounds Running For Their Lives
https://www.youtube.com/watch?v=ZYTb2qBjlMM
Panorama investigates: Doping and rigging bets
https://www.youtube.com/watch?v=I0p0bHSkIAk
https://www.theguardian.com/sport/2021/jun/26/activists-renew-calls-to-end-greyhound-racing-as-400-die-despite-lockdowns
https://www.mirror.co.uk/news/uk-news/greyhounds-being-shipped-pakistan-illegal-23765480
https://www.thesun.co.uk/news/13086085/british-greyhounds-racing-dogs-mass-graves-bolt/

Bydd deiseb ddiweddar yn cael ei thrafod yn Senedd y DU ar ôl iddi gasglu 104,882 o lofnodion.
https://petition.parliament.uk/petitions/554073

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

35,101 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 8 Mawrth 2023

Gwyliwch y ddeiseb ‘Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru’ yn cael ei thrafod

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘Y Troad Terfynol?' ei drafod gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 08 Mawrth 2023.

Busnes arall y Senedd

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau ei adroddiad ar Ddeiseb P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru ar 15 Rhagfyr 2022: https://senedd.cymru/media/wv3flqe0/cr-ld15555-w.pdf.

Ymgynghoriad ar agor

Mae ymgynghoriad wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru i glywed barn ar trwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ystyried y posibilrwydd o drwyddedu perchnogion, ceidwaid a hyfforddwyr cŵn rasio fel milgwn, yn cynnwys hefyd gofyn am dystiolaeth i gyfiawnhau neu wrthod ystyried gwaharddiad graddol ar rasio cŵn yn y dyfodol.

Mae'r ymgynghoriad hwn ar agor tan 1 Mawrth 2024 a gellir ei gyrchu trwy'r linc ganlynol: https://www.llyw.cymru/trwyddedu-sefydliadau-lles-gweithgareddau-ac-arddangosfeydd-anifeiliaid.