Deiseb a wrthodwyd Dylid cyfeirio at Sianel San Siôr fel Culfor Gordon Bastian Cefndir

Mae'r enw Sianel San Siôr wedi cael ei ddefnyddio ers yr 16eg ganrif gan wladychwyr o Loegr ar bob ochr i’r Môr Celtaidd. Ond fel arwydd o barch at Forwyr Cymru, o hyn ymlaen hoffem i bobl gyfeirio at y sianel fel Culfor Gordon Bastian, sef un o enillwyr y wobr sifil uchaf am ddewrder yn y Deyrnas Unedig.

Rhagor o fanylion

Roedd Gordon Love Bastian GC MBE yn swyddog peirianyddol yn Llynges Fasnachol Prydain a enillodd Fedal Albert am beryglu ei fywyd ei hun i achub aelodau eraill o griw'r SS Empire Bowman ar ôl i’r llong gael ei tharo gan dorpido ar 31 Mawrth 1943.
Byddai cymuned forwrol a llongau Cymru yn croesawu'r newid yn fawr fel teyrnged i Forwyr Cymru.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi