Deiseb a wrthodwyd Ymchwiliad annibynnol i gost y gwaith sydd wedi ei wneud ar brosiect ffordd osgoi yr M4.

Ar ôl clywed adroddiadau am ddileu swm o filiynau o bunnoedd sydd wedi cael ei wario ar brosiect trychinebus ffordd osgoi yr M4, mae llawer o boblogaeth Cymru yn pryderu’n ddirfawr sut y cafodd yr arian hwn ei wario.
Mae’r sawl sydd wedi llofnodi’r ddeiseb hon yn galw i’r wybodaeth gael ei gwneud yn agored ynghylch sut y cafodd yr arian hwn ei wario, manylion y contractau, ymgynghorwyr, cyflogau ac ati.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi