Deiseb a wrthodwyd Gwahardd gwerthu POB barbeciw untro yng Nghymru

Mae Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn gwastraffu gormod o’u hamser gwerthfawr yn delio â chanlyniadau'r barbeciws hyn, heb sôn am y potensial iddyn nhw, y cyhoedd a bywyd gwyllt gael eu hanafu oherwydd tân a achosir drwy beidio â chael gwared ar farbeciw yn y ffordd gywir.
Gan fod y cynhyrchion ffoil cludadwy hyn yn rhad i'w prynu, mae llawer yn eu defnyddio mewn coetiroedd, parciau, mannau picnic, twyni, ac ar draethau ac ati lle y bydd glaswellt hir, isdyfiant, coed a deunyddiau naturiol hylosg eraill yn mynd ar dân yn hawdd.

Rhagor o fanylion

Mae ymchwiliadau i danau gwyllt difrifol wedi dod o hyd i weddillion barbeciws untro a adawyd yn y fan a’r lle. Ar draethau, mae peidio â chael gwared ar farbeciw mewn modd priodol yn golygu bod padelli llawn golosg yn cael eu gadael ar ôl neu, yn waeth byth, eu claddu yn y tywod. Mae hyn yn gallu arwain at fannau peryglus o dwym, a bydd pobl neu anifeiliaid sy’n sefyll ar y rhain yn cael anafiadau llosg sylweddol. Hoffwn ofyn i'r cynhyrchion hyn gael eu gwahardd yn llwyr cyn haf 2022.
Dyma rai enghreifftiau lle mae gwaredu amhriodol wedi achosi tân: mis Gorffennaf 2018, cafodd plentyn dwy oed anafiadau llosg difrifol, Bae Cas-wellt; mis Mai 2020, dinistriwyd 190 erw o goetir gwarchodedig a lladdwyd bywyd gwyllt, Wareham Forest, swydd Dorset; mis Mehefin 2020, tân ar y Gogarth, Llandudno; mis Mehefin 2021, sgip ar dân, Caerdydd; mis Mehefin 2021, tri thân ar wahân yn ardal Wrecsam; mis Mehefin 2021, llosgodd dyn ei droed yn ofnadwy, traeth Abermaw. Gellid bod wedi atal pob un o'r digwyddiadau hyn, ynghyd â llawer mwy yn y dyfodol, o bosibl, pe bai barbeciw untro heb gael ei ddefnyddio. Dylid cyflwyno’r gwaharddiad hwn cyn i rywun gael ei ladd.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi