Deiseb a gwblhawyd Dylid buddsoddi i sicrhau bod gan yr holl ysgolion seilwaith a chysylltedd rhyngrwyd effeithiol ac o safon.

Mae cysylltiad band eang da wedi dod yn hanfodol ar gyfer addysg yn yr 21ain ganrif. Dylid ac mae’n rhaid gwneud mwy i sicrhau bod gan ein hysgolion y cysylltiad rhyngrwyd gorau posibl i ddarparu cydraddoldeb i bawb, lle bynnag yng Nghymru mae disgyblion yn byw.
Er i raglen flaenorol (2016-21) Llywodraeth Cymru geisio blaenoriaethu mynediad at fand eang cyflym iawn, mae rhai ysgolion yn parhau i aros am hyn.

Rhagor o fanylion

Rwy’n galw i’r holl ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru gael cysylltiad gigabeit (rhwymedigaeth gwasanaeth 1000Mbps) gwirioneddol, gan sicrhau na fydd yr un disgybl dan anfantais oherwydd cyflymder band eang gwael yn yr ysgol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

65 llofnod

Dangos ar fap

10,000