Deiseb a gwblhawyd Rheoli llygredd sy’n deillio o waith amaethyddol yn y rhannau o Afon Gwy ac Afon Hafren a leolir yng Nghymru Cefndir
1. Cyflwyno moratoriwm ar unwaith o unrhyw unedau dofednod dwys newydd yn nalgylchoedd Afon Gwy ac Afon Hafren sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
2. Cadw rheolaeth lym ar y broses o wasgaru tail yn ôl y llwyth ffosffad yn y ddaear
3. Monitro lefelau ffosffad
4. Cymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw achos o dorri deddfwriaeth llygredd
Rhagor o fanylion
Mae ansawdd dŵr a bioamrywiaeth wedi gwaethygu yn y ddwy afon yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd lefelau uchel o nitradau a ffosffadau sy’n arwain at dwf algâu. Mae hyn wedi arwain at ddirywiad sylweddol mewn bioamrywiaeth. Llygredd o ddŵr ffo sy’n deillio o waith amaethyddol, yn enwedig o unedau dofendod dwys (IPUs), yw’r prif achos sy’n cyfrannu at fwy o lygredd yn yr afonydd hyn. Mae angen cadw rheolaeth lym ar lygredd sy’n deillio o waith amaethyddol ffermydd er mwyn atal trychineb ecolegol.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon