Deiseb a gwblhawyd Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun

Gwrthodwyd i o leiaf 27 o blant 11-12 oed gael cludiant i’w hysgol gyfun agosaf. Mae gan rai o'r plant ifanc hyn gyflyrau meddygol fel asthma ac awtistiaeth ac mae gan o leiaf 1 plentyn epilepsi ac mae disgwyl iddynt gerdded i'r ysgol ym mhob tywydd. Mae'r plant hyn wedi cael eu gwahanu oddi wrth ffrindiau sydd wedi gallu cael pas bws, a dim ond nifer gyfyngedig o blant sydd wedi'u gwrthod. Mae'n warthus.

Rhagor o fanylion

Dim ond nifer gyfyngedig o blant sydd wedi'u heithrio rhag cael pas bws, a hynny oherwydd cyfreithiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, llywodraeth sydd i fod yn rhoi blaenoriaeth i les plant. Mae yna oedolion ifanc 16 oed yn cael pas oherwydd eu bod yn yr ysgol cyn i'r gyfraith hon gael ei newid, felly er bod y rhain yn ddigon aeddfed i ddod o hyd i fath arall o gludiant, mae plant 11 a 12 oed yn cerdded mewn tywydd echrydus ar hyd ffyrdd peryglus. Mae addysg yn orfodol yn y wlad hon ac felly dylai cludiant fod ar gael i bob disgybl os nad yw’r ysgol gyfun yn y pentref y maent yn byw ynddo. Rydym i gyd yn talu trethi, gan gynnwys taliadau cymunedol ac ni ddylai’r Llywodraeth fod wedi gwneud toriadau i’r ddarpariaeth addysg.
Dylai fod yn hanfodol i blant fedru cyrraedd yr ysgol yn ddiogel ac yn sych. Creulondeb llwyr yw gwneud i blant ifanc gerdded 3 milltir mewn pob math o dywydd yn wlyb socian ac yn eistedd mewn gwersi drwy'r dydd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

181 llofnod

Dangos ar fap

10,000