Deiseb a wrthodwyd Dylid newid y gyfraith sy’n ymwneud â landlordiaid a’r broses droi allan

Dylid cyflwyno cyfreithiau sy’n cefnogi proses gyfreithiol haws i droi allan tenantiaid sy’n difrodi eiddo neu sy’n methu â thalu eu rhent.

Rhagor o fanylion

Mae gen i gwmni eiddo yn gofalu am fy eiddo i a landlordiaid eraill, ac rwyf wedi bod yn y busnes hwn ers dros 12 mlynedd. Mae’r broses wedi ei phwysoli o blaid y tenantiaid ac nid yw’n helpu â’r costau sylweddol o adfer eiddo ac i alluogi troi allan tenantiaid yn gynt am beidio â thalu rhent.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi