Deiseb a gwblhawyd Dylai Cyfoeth Naturiol Cymru orfod cynnal a chyhoeddi arolygon bywyd gwyllt blynyddol cyn cwympo coetir

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli coedwigoedd y wladwriaeth, ond nid ydynt yn cynnal arolygon o boblogaethau rhywogaethau gwarchodedig cyn cwympo coetir. Er mwyn osgoi colli bioamrywiaeth, dylent asesu maint poblogaethau rhywogaethau prin sy'n bresennol cyn ymgymryd â gweithrediadau cwympo coetir, fel eu bod yn sicrhau nad yw colli cynefinoedd yn peri dirywiad. Dylai'r data poblogaeth gael ei gyhoeddi cyn i unrhyw goed gael eu gwerthu i'w torri. Ar hyn o bryd, dim ond ceisio atal anifeiliaid ac adar prin rhag cael eu lladd gan beiriannau cynaeafu y maen nhw’n ei wneud, ond nid yw hyn yn ddigon.

Rhagor o fanylion

Nid yw'n ddigon da ceisio osgoi lladd anifeiliaid prin pan fydd coed yn cael eu torri i lawr. Mae angen rhai mathau o gynefin coedwig ar adar, ystlumod, pathewod a madfallod ac mae ei dorri i lawr yn golygu na allant oroesi yno mwyach. Yn ôl Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru, mae mamaliaid fel y wiwer goch a llygoden y dŵr, adar fel y gylfinir a phlanhigion fel tegeirian y fign wedi'u gwasgu allan trwy golli cynefin
https://bbc.co.uk/news/uk-wales-58641886
Mae angen i Gyfoeth Naturiol Cymru fod yn onest ac arolygu poblogaethau cyn cwympo coed, gan gyhoeddi'r data fel y gall y cyhoedd weld a yw'r asiantaeth yn peri i'r boblogaeth ostwng. Fe ddylen nhw fod yn cymryd yr awenau gan sicrhau bod gan rywogaethau prin ddigon o gynefin, ac nid dim ond torri coedwigoedd i lawr trwy'r amser heb ddangos beth mae hyn wedi'i wneud i ystlumod a phathewod.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,211 llofnod

Dangos ar fap

10,000