Deiseb a wrthodwyd Ail-sefydlu Cyngor Sir ar gyfer Sir Drefaldwyn, gan wrthdroi creu Powys ym 1974

Mae Powys yn sir fawr, anodd ei rheoli, gyda’r rhan fwyaf o wasanaethau wedi’u canoli yn Llandrindod a’r penderfyniadau’n cael eu gwneud yno. Mae hon yn daith bedair awr yn ôl a blaen o nifer o leoliadau o amgylch Powys, fel gogledd Sir Drefaldwyn. Sir Drefaldwyn yw cartref y rhan fwyaf o boblogaeth Powys ac mae’n cyfrannu'r rhan fwyaf o'i hincwm treth gyngor. Bydd ail-greu Cyngor Sir ar gyfer Sir Drefaldwyn yn datrys y problemau maint hyn, ac yn gwrthdroi'r diffyg democrataidd a grëwyd gan fod Powys mor fawr.

Rhagor o fanylion

Powys yw'r sir fwyaf yng Nghymru, ac mae’n cwmpasu chwarter arwynebedd y wlad. Mae'n un o'r awdurdodau unedol mwyaf yn y DU. Crëwyd y 'sir' fodern ym 1974, ond cadwodd Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog eu Cynghorau Dosbarth eu hunain a oedd yn gyfrifol am gynllunio a gwasanaethau lleol eraill. Yn ddadleuol, a heb refferenda lleol, diddymwyd y cynghorau dosbarth hyn ym 1996 gan y Llywodraeth Geidwadol ar y pryd.
Ar yr un pryd, diddymwyd 'siroedd mawr' eraill, anodd eu rheoli, a oedd yn cwmpasu ardaloedd daearyddol helaeth, tebyg i Bowys heddiw, fel hen 'sir fawr' Dyfed, ac adferwyd hen siroedd Penfro, Caerfyrddin a Cheredigion. Yn yr Alban, diddymwyd 'siroedd mawr' yno hefyd yn un fflyd ym 1996, gan adfer, ar y cyfan, y siroedd hanesyddol a 'ddiddymwyd' ym 1974. Yn Lloegr, diddymwyd sir fawr 'Henffordd a Chaerwrangon' ym 1998. Felly mae cynsail clir ar gyfer diddymu 'siroedd mawr'.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi