Deiseb a wrthodwyd For the Senedd to have a vote on the abolition of COVID passes.

The vote to bring in COVID passes was farcical and needs revisiting.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n gofyn i’r Senedd wneud rhywbeth na all ei wneud.

Cynhaliwyd y bleidlais i basio'r penderfyniad yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 17) 2021 drafft yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Hydref yn unol â Rheolau Sefydlog. Pasiwyd y penderfyniad ac aeth Gweinidogion Cymru ymlaen i wneud y rheoliadau yn gyfreithlon y diwrnod canlynol, gyda'r darpariaethau'n dod i rym ddydd Llun 11 Hydref. O ganlyniad, nid yw'n bosibl i'r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn gofyn amdanynt.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi