Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.
Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad
Deiseb a gwblhawyd Creu system adalw ar gyfer Aelodau o’r Senedd sy’n perfformio’n wael
Rydym yn galw ar y Senedd i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno system lle y gall etholwyr adalw eu Haelod o’r Senedd a galw is-etholiad yn dilyn hynny, yn debyg i’r system a gyflwynwyd gan Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015.
Os yw Aelod o’r Senedd yn methu yn ei (d)dyletswydd, dylai fod system ar waith i’w (d)disodli.
Rhagor o fanylion
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon