Deiseb a wrthodwyd Make the Senedd take on the Universal Credit top-up and make it permanent

The UK government last week ended the Universal Credit uplift of £20 a week, in a time of inflation, with rising food, fuel and energy costs.

I call on the Senedd to match funding to ensure the uplift in Universal Credit continues in Wales.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae’n rhaid i ddeisebau i’r Senedd alw am gamau gweithredu penodol sy’n dod o fewn pwerau’r Senedd neu Lywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd mae nawdd cymdeithasol wedi'i gadw i Lywodraeth y DU,
ac eithrio rhai budd-daliadau. O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.

Mae rhagor o wybodaeth am bwerau a chyfrifoldebau’r Senedd i’w gweld yma: https://senedd.cymru/sut-rydym-yn-gweithio/ein-rol/pwerau/

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi