Deiseb a gwblhawyd Profion COVID i blant sy'n addas i’r oedran

Hoffwn i'r Llywodraeth ystyried mabwysiadu dull gwahanol o brofi plant, sef prawf PCR sy'n addas i’r oedran a elwir yn brawf lolipop. Y cyfan sydd angen i blentyn ei wneud yw sugno ar swab cotwm am oddeutu 30 eiliad, sy'n brofiad llawer llai annymunol.

Rhagor o fanylion

Rwyf wedi gweld bod profion COVID-19 i blant ifanc yn gallu bod yn drawmatig i'r plentyn a'r rhiant, yn enwedig wrth brofi plant iau. Mae hyn yn debygol o waethygu gyda thymor y ffliw ac anwydau ar ddod. Mae plant sy'n dueddol o ddioddef peswch yn gorfod cael y prawf swab PCR yn rheolaidd cyn iddynt allu dychwelyd i'r ysgol. Mae'r profion hyn yn peri straen a gofid yn aml, a’r cyfyng-gyngor i rieni yw a ddylid ynysu plentyn, er mai annwyd yn unig sydd ganddo, i osgoi gorfod gwneud prawf. Mae yna opsiwn gwell i blant sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn yr Almaen. Mae'n brawf PCR sy'n briodol i'r oedran a elwir yn brawf 'lolipop', ac mae'n ddibynadwy iawn. Tybed pam nad ydym yn cynnig y prawf hwn yn y DU. Hoffwn ofyn i'r Llywodraeth fabwysiadu’r dull hwn fel ffordd fwy caredig o brofi plant ifanc. Mae’n hen bryd i ni leddfu’r gofidion sy’n gysylltiedig â phrofion!

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

376 llofnod

Dangos ar fap

10,000