Deiseb a wrthodwyd Make St David’s day a Bank holiday!

Dydd Gwyl Dewi / St David's Day has always been a significant day in Cymru / Wales, and has been used to celebrate everything Welsh. It's time to make this special day a bank holiday in Wales, just like Scotland has St Andrew's Day, and Ireland has St Partick's Day as bank holidays.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae’n rhaid i ddeisebau i’r Senedd alw am gamau gweithredu penodol sy’n dod o fewn pwerau’r Senedd neu Lywodraeth Cymru.

Mae Atodlenni 7A a 7B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn pennu’r materion sy’n ‘gyfyngedig’ neu a ‘gedwir yn ôl’ i Senedd y DU - h.y. meysydd lle mai dim ond Senedd neu Lywodraeth y DU, nid y Senedd neu Lywodraeth Cymru, a gaiff weithredu.

Mae penderfyniad ynglŷn â gŵyl y banc yn gyfyngedig. O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.

Mae rhagor o wybodaeth am bwerau a chyfrifoldebau’r Senedd i’w gweld yma: https://senedd.cymru/sut-rydym-yn-gweithio/ein-rol/pwerau/

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi