Deiseb a gwblhawyd Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan.
Am 9.15 am ddydd Gwener, 21 Hydref, 1966, dechreuodd tomen gwastraff glo uwchben pentref glofaol Aberfan lithro i lawr y mynydd, gan ddinistrio bwthyn fferm yn gyntaf a lladd pawb a oedd ynddo. Yna, llithrodd ymhellach tuag at Ysgol Iau Pantglas, lle’r oedd y plant newydd ddychwelyd i'w dosbarthiadau ar ôl canu All Things Bright and Beautiful yn eu gwasanaeth boreol. Claddwyd yr ysgol a thua 20 o dai yn y pentref, gan ladd 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant ysgol.
Rhagor o fanylion
Ar 26 Hydref 1966, penodwyd tribiwnlys i ymchwilio i achosion trychineb Aberfan a'r amgylchiadau cysylltiedig. Cadeirydd y tribiwnlys oedd y bargyfreithiwr a’r Cyfrin Gynghorydd yr Arglwydd Ustus Edmund Davies.
Dyma gasgliadau’r adroddiad:
* Y Bwrdd Glo Cenedlaethol, a’r ffaith nad oedd ganddynt unrhyw fath o bolisi ar gyfer tomenni glo, oedd yn llwyr gyfrifol am y trychineb.
* Anwybyddwyd rhybuddion niferus am gyflwr peryglus y domen.
* Nid oedd y tomenni wedi cael eu harchwilio erioed ac roedd y Bwrdd Glo yn ychwanegu atynt yn barhaus a hynny heb unrhyw fath o drefn na chynllun. Roedd y Bwrdd Glo wedi diystyru’r cyflwr daearegol ansefydlog ac nid oedd wedi gwneud dim yn dilyn llithriadau llai, blaenorol, a dyma oedd y prif ffactorau a gyfrannodd at y trychineb.
Ni ddylid anghofio'r bobl ddiniwed hyn a dylent aros yn ein cof am byth. Dylai'r 21ain o Hydref fod yn Ddiwrnod Coffa cenedlaethol i gofio amdanynt a sicrhau na fyddant byth yn angof.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon