Deiseb a gaewyd Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.

Mae symud i wythnos waith pedwar diwrnod yn rhoi hwb i gynhyrchiant a lles gweithwyr.
Ar ôl treialon llwyddiannus o wythnos waith fyrrach yng Ngwlad yr Iâ – heb ostyngiad mewn cyflogau – mae llywodraethau yn yr Alban, Iwerddon a Sbaen i gyd yn datblygu eu cynlluniau peilot eu hunain ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod, a fydd yn dechrau'r flwyddyn nesaf. Mae gwaith o ddifrif yn cael ei wneud i symud tuag at wythnos waith pedwar diwrnod yng Ngwlad Belg, Seland Newydd, yr Almaen a Siapan hefyd.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.

Rhagor o fanylion

Pan dreialodd Microsoft wythnos pedwar diwrnod heb ostyngiad mewn cyflogau yn eu swyddfa yn Japan, cafwyd cynnydd o 40 y cant mewn cynhyrchiant. (https://www.theguardian.com/technology/2019/nov/04/microsoft-japan-four-day-work-week-productivity)
Yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, roedd 55 y cant o'r holl ddiwrnodau salwch a gymerwyd y llynedd yn ganlyniad uniongyrchol i straen, iselder neu orbryder mewn perthynas â gwaith. Byddai symud i wythnos waith pedwar diwrnod yn arwain at leihad dramatig mewn problemau iechyd meddwl yng Nghymru.
Canfu astudiaeth gan y sefydliad amgylcheddol Platform London y byddai cyflwyno wythnos waith pedwar diwrnod heb ostyngiad mewn cyflogau yn arwain at leihad o 127 miliwn o dunelli mewn allyriadau carbon y DU, gostyngiad o fwy nag 20 y cant. (https://www.theguardian.com/environment/2021/may/27/four-day-working-week-would-slash-uk-carbon-footprint-report)
Wythnos waith pedwar diwrnod yn ‘llwyddiant ysgubol’ yng Ngwlad yr Iâ https://www.bbc.com/news/business-57724779

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,619 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 10 Mai 2023

Gwyliwch y ddeiseb ‘Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.’ yn cael ei thrafod

Cafodd adroddiad y Pwyllgor Deisebau, ‘O Bump i Bedwar?' ei drafod gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Mai 2023.

Busnes arall y Senedd

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau ei adroddiad ar Ddeiseb P-06-1247 Cefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru ar 24 Ionawr 2023: https://senedd.cymru/media/3djewxmx/cr-ld15618-w.pdf.

Cafodd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ei cyhoeddi ar 10 Mawrth 2023: https://senedd.cymru/media/r31hiuf2/gen-ld15726-w.pdf.