Deiseb a gwblhawyd Ystyried defnyddio Graddau a Aseswyd gan Athrawon ar gyfer dysgwyr na allent sefyll arholiadau TGAU ym mis Tachwedd oherwydd prawf COVID positif. Dylid sicrhau bod trefniadau tecach ar waith ar gyfer arholiadau mis Mai.

Roedd fy mab, sydd ym mlwyddyn 11, wedi paratoi’n llawn i sefyll ei arholiadau Rhifedd TGAU ar 2 a 4 Tachwedd. Ar 31 Hydref, cymerodd brawf llif unffordd yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru. Roedd y prawf hwn yn bositif, a dilynwyd hyn gan brawf PCR positif. Roedd hyn yn golygu na allai sefyll ei arholiadau er bod yr ysgol wedi’i baratoi’n drylwyr ar eu cyfer yn ddiweddar. Ni ddylai fod o dan anfantais oherwydd y pandemig - ac ni ddylai pobl eraill sydd â Covid fod o dan anfantais chwaith. Maent wedi gweithio mor galed i gyrraedd y pwynt hwn.

Rhagor o fanylion

Nid yw negeseuon e-bost gan y bwrdd arholi a Llywodraeth Cymru yn gefnogol o gwbl

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

126 llofnod

Dangos ar fap

10,000