Deiseb a gwblhawyd Rhowch y gorau i fod yn anghyson o ran canllawiau COVID. Gadewch i ysgolion gael yr un hyblygrwydd â sinemâu neu stadia

Os gall rhieni fynd rygbi neu'r sinema gyda phàs COVID fe ddylen nhw allu mynd i gyngerdd neu ddigwyddiad mewn ysgol. Mae canllawiau COVID-19 presennol ar gyfer ysgolion yn argymell bod rhyngweithio agos rhwng oedolion, staff a dysgwyr yn cael ei leihau. O ganlyniad, nid oes gan ysgolion yr hyblygrwydd i wahodd rhieni/gofalwyr i'r ysgol. Dyma’r sefyllfa er gwaetha’r ffaith bod theatrau, sinemâu a stadia rygbi i gyd yn agored ar gyfer busnes. Rwy’n gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried y canllawiau ar gyfer ysgolion.

Rhagor o fanylion

Mae profion llif unffordd a phasiau COVID ar waith, ac mae’r cynllun brechiadau atgyfnerthu eisoes yn mynd rhagddo.
Defnyddiodd miloedd o gefnogwyr y dulliau hyn i gael mynediad i Stadiwm y Principality ar 30 Hydref er mwyn mynd i gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd.
https://llyw.cymru/defnyddio-pas-covid-y-gig-i-fynd-i-ddigwyddiadau-mawr-lleoliadau
Bu’n rhaid i’n hysgolion cynradd lleol gau eu drysau ar ddiwrnodau chwaraeon, maen nhw wedi cael trafferth codi arian oherwydd y canllawiau ynghylch cadw pellter cymdeithasol, ac erbyn hyn maen nhw wedi cael gwybod na all rhieni gael mynd i gyngherddau Nadolig am yr ail flwyddyn yn olynol
https://llyw.cymru/fframwaith-penderfyniadau-rheoli-heintiau-covid-19-lleol-ar-gyfer-ysgolion-o-hydref-2021-html?_ga=2.202551121.1125465759.1638175955-1154999829.1636971592
Mae llesiant meddwl plant wedi dirywio oherwydd yr ansicrwydd a'r ymdeimlad o ynysu. Fe ddylen ni fod yn cefnogi ein plant i ddychwelyd i normalrwydd hefyd.
https://www.nhs.uk/every-mind-matters/supporting-others/childrens-mental-health/
https://www.bmj.com/content/bmj/374/bmj.n1730.full.pdf

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

421 llofnod

Dangos ar fap

10,000