Deiseb a wrthodwyd Treialu cyrsiau dysgu cydweithredol mewn ysgolion cyfun Cymraeg
Yn ôl tystiolaeth, o waith David W. Johnson a Roger T. Johnson (2009), dangoswyd bod dysgu cydweithredol yn datblygu agweddau mwy cadarnhaol tuag at yr ysgol a gweithio tuag at gwblhau tasgau, ac hefyd mae’n hyrwyddo cadw rhagor o wybodaeth yn yr hirdymor a meddwl mwy creadigol, o gymharu ag astudio’n unigol.
Rhagor o fanylion
Mae rhagor o waith ymchwil gan Johnson a Johnson (1998) yn dangos bod dysgu cydweithredol yn hyrwyddo cyd-ddibyniaeth myfyrwyr, rhagor o ryngweithio â chyd-ddisgyblion ac agwedd well o ran terfynau amser ac iechyd meddwl gwell.
O gofio'r holl wybodaeth uchod, rwy'n galw ar y llywodraeth i dreialu cyrsiau dysgu cydweithredol yn ysgolion cyfun Cymru, i hyrwyddo cydweithredu, cyd-ddibyniaeth, rhagor o fwynhad o addysg a rhagor o wobrau o ganlyniad i ddysgu.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi