Deiseb a gwblhawyd Cynrychiolaeth amrywiol a chyfartal yn y Senedd
Gweledigaeth Ymgyrch 5050Amrywiol yw sicrhau bod rhagor o fenywod Duon, Asiaidd, menywod o gefndir lleiafrifoedd ethnig, menywod LGBTQ+, menywod anabl, a menywod â nodweddion gwarchodedig eraill yn y strwythur arweinyddiaeth yng Nghymru, a bod gennym Senedd sy'n gytbwys o ran y rhywiau ac sy’n adlewyrchu'r boblogaeth gyfan yng Nghymru.
Mae'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru yn cefnogi cwotâu rhyw integredig, ond mae angen gwneud rhagor.
Rydym yn galw am gwotâu integredig o ran amrywiaeth ac o ran rhywedd, sy'n gyfreithiol rwymol.
Rhagor o fanylion
Er bod y Senedd yn dathlu bod â chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2003, mae cynrychiolaeth menywod wedi gostwng i 43 y cant ers hynny. Gwneir gwell penderfyniadau yn sgil rhagor o amrywiaeth, ac mae diffyg cynrychiolaeth amrywiol wedi cael effaith negyddol, fel y mae pobl anabl wedi’i brofi yn ystod y pandemig COVID-19. Mae gan 100 o wledydd ledled y byd gwotâu o ran y rhywiau, ac mae tua 40 o wledydd yn eu defnyddio ar gyfer nodweddion ychwanegol. Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos mai cwotâu fu'r offeryn unigol mwyaf effeithiol ar gyfer sicrhau 'llwybr carlam' o ran cynrychiolaeth menywod mewn bywyd cyhoeddus a gwleidyddol.
https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-56225381
Krook, ML & Zetterberg, P. (2014). Cwotâu etholiadol a chynrychiolaeth wleidyddol: safbwyntiau cymharol, Adolygiad Gwyddoniaeth Wleidyddol Ryngwladol Cyf 35(1), 3-11.
https://llyw.cymru/drws-ar-glo-datgloi-bywydau-hawliau-pobl-anabl-yng-nghymru-ar-ol-covid-19-html
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon