Deiseb a gwblhawyd Dylid creu Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol Cymru

Ar hyn o bryd, mae 2 yn Lloegr ac 1 yn yr Alban, ond dim un yng Nghymru – “gwlad beirdd a chantorion”. Mae diffyg Llyfrgell Farddoniaeth Genedlaethol Cymru yn fwlch yn ein bywyd diwylliannol, cenedlaethol. Er bod y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn sefydliad rhagorol, nid yw eto’n lle sy’n helpu barddoniaeth i flodeuo. Dim ond Llyfrgell Farddoniaeth bwrpasol all fod yr archif ar gyfer rhywfaint o’n barddoniaeth hynaf, bod yn lle pererindod a thwf i’n beirdd a bod yn sefydliad sy’n pontio ein traddodiadau barddonol dwyieithog.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

410 llofnod

Dangos ar fap

10,000