Deiseb a wrthodwyd Dewch â’r cynllun ‘hawl i brynu’ yn ôl fel y gall pobl sy’n rhentu gan awdurdodau lleol brynu eu cartrefi.
Cafodd y cynllun hawl i brynu ei ddiddymu yng Nghymru yn 2019. Fodd bynnag, rwy’n creu y dylai ddod nôl. Mae llawer o bobl fel fi sy’n rhentu eu cartref gan eu cyngor lleol wedi gwario miloedd o bunnoedd yn gweddnewid eu heiddo. Pan symudon ni i’n heiddo roedd mewn cyflwr gwael iawn ac erbyn hyn mae’n gartref teuluol hyfryd lle rydym am fagu ein plant. Rydym yn awyddus iawn i fod yn berchen ar dŷ yn y dyfodol ond ddim am orfod gadael y tŷ rydym wedi’i wneud yn gartref er mwyn cyflawni hynny.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi