Deiseb a wrthodwyd Gwrthdroi’r rheoliadau newydd 'Gweithio Gartref' gan eu bod yn gwbl anymarferol!
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyflwyno 'rheoliad' newydd a fydd yn dirwyo unigolion am fynd i mewn i‘r gwaith os na allant weithio gartref! Nid ydynt wedi darparu UNRHYW restr swyddogol o resymau sydd wedi'u heithrio ac felly ni allant orfodi rheol sy'n anorfodadwy! Bydd ffactorau fel iechyd meddwl, iechyd corfforol, galluoedd gyda’r rhyngrwyd, nifer y bobl mewn un adeilad yn gweithio, mae'r rhestr yn hirfaith! Rwy'n galw am gael gwared â'r rheol dramgwyddus a llym hon ar unwaith!
Mae digon o resymau pam na fyddai gweithiwr yn ei chael hi'n rhesymol gweithio gartref hyd yn oed os yw'n gorfforol bosibl gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys eu hiechyd meddwl. Rydym eisoes wedi bod yn gwneud hyn ers bron i ddwy flynedd. Un arall yw methu â chael y cyfarpar cywir gartref i wneud hyn heb effeithio ar ystum. Bydd hyn yn arwain at gyflyrau eraill fel poen cefn a gwddf, anaf straen ailadroddus o beidio ag eistedd wrth ddesg briodol. Mae mater hefyd ynghylch galluoedd band eang. Oes, mae gan lawer o bobl fand eang ffibr ond os oes 3-4 yn gweithio gartref ar gyswllt 40-50mbps, bydd hynny’n rhwystro pob un ohonynt. Yna mae gennych y mater o ran gofod i gyd-fynd â hyn. Ar hyn o bryd mae llawer o bobl yn gweithio ar eu gliniau mewn ystafelloedd byw neu mewn ceginau ac nid mewn man gwaith pwrpasol. Ni ellir goddef hyn mwyach! Rwy'n galw ar Mark Drakeford i ddechrau bod yn arweinydd y bobl yn unol â'r Mantra Llafur: 'I'r mwyafrif yn hytrach na'r lleiafrif'! Yn olaf, nid oes gan bobl yr arian ar gyfer hyn fel y mae! Felly o ble mae am ddod?
Rhagor o fanylion

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi